Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o gyhoeddi ei seremoni Wobrwyo INSPIRE, a gynhelir ar 5 Hydref 2023 ar Gampws Llanbedr Pont Steffan y brifysgol yn Neuadd Fwyta Lloyd Thomas.
Mae seremoni Gwobrau INSPIRE yn un o uchafbwyntiau calendr y brifysgol, sy'n dod â myfyrwyr, staff, partneriaid diwydiant ac aelodau o'r gymuned ehangach ynghyd i ddathlu a chydnabod rhagoriaeth ym maes ymchwil, arloesi, mentergarwch, ac ymgysylltiad dinesig a diwydiannol.
Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau eithriadol a'u cyflawniadau ysbrydoledig? Neu efallai mai chi sydd wedi bod yn cael effaith sylweddol ar eich maes? Enwebwch chi eich hun neu rywun arall ar gyfer Gwobr INSPIRE fawreddog!
Bydd eich enwebiadau'n cael eu gwerthuso'n gan banel beirniadu sy'n cynnwys staff academaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a gwesteion eu parch o wahanol ddiwydiannau. Daw'r arbenigwyr hyn â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i sicrhau gwerthusiad teg a thrylwyr o bob enwebai.